top of page

Yn ICW mae mynediad di-rwystr gennym at ystod eang o yswirwyr drwy sawl ffrwd. Gan weithio’n agos â Direct Insurance Group PLC, mae’r gallu gennym i froceru risg o fewn marchnad yswirio mwya’r byd, Lloyd’s of London – lle mae mynediad gennym i gyfleusterau unigryw. Mae ein haelodaeth o rwydwaith Marsh Pro Broker yn caniatáu inni gydgysylltu âg yswirwyr cenedlaethol ar eich rhan; sy’n aml yn dod âg ychwanegiadau i bolisïau pwrpasol. Mae ICW yn hapus i archwilio pob math o risg o ran busnes masnachol a moduron busnes, megis;

> Masnachu Moduron

> Contractwyr Adeiladu a Choedwigaeth

> Modur Busnes a Fflyd Bach

> Swyddfeydd a Siopau

> Bwytai, Gwestai a Thafarndai

> Y Diwydiant Hamdden yn cynnwys Meysydd Carafan

> Cyrsiau Golff

Busnesau

bottom of page